logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd Iôr, boed clod i ti

O Arglwydd Iôr, boed clod i ti
am gofio eto’n daear ni
â’th fendith hael ei dawn:
diodaist hi ag afon Duw,
fe’i gwisgaist â phrydferthwch byw,
gan lwyr aeddfedu’r grawn.

Tydi yw Tad y gwlith a’r glaw,
a’r haul sy’n gwasgar ar bob llaw
hyfrydwch dros y wlad:
sisiala’r awel d’enw di,
a’i seinio a wna’r corwynt cry’,
a phwy ni’th fawl, O Dad?

Fe gân pob tymor, Arglwydd Iôr,
dy glod yn glir ar dir a môr,
ac una’r ddaear faith:
a ninnau mwy ymddiried wnawn
yng ngrym dy gariad, Dad pob dawn,
nes cyrraedd pen y daith.

J. T. JOB, 1867-1938

(Caneuon Ffydd 96)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan