logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd gwêl dy was

O Arglwydd gwêl dy was
A phrawf fy nghalon i;
Os gweli ynof anwir ffordd,
I’r uniawn tywys fi.

Os oes rhyw bechod cudd
Yn llechu dan fy mron,
O! Chwilia ‘nghalon drwyddi oll,
A llwyr sancteiddia hon

Yn Isräeliad gwir
Gwna fi, heb dwyll na brad;
A’m prif hyfrydwch yn fy Nuw,
A’m cân am gariad rhad.

Benjamin Beddome, cyf. Gomer

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 14)

PowerPoint