logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd, dyro awel

O Arglwydd, dyro awel,
a honno’n awel gref,
i godi f’ysbryd egwan
o’r ddaear hyd y nef;
yr awel sy’n gwasgaru
y tew gymylau mawr;
mae f’enaid am ei theimlo:
o’r nefoedd doed i lawr.

Awelon Mynydd Seion
sy’n cynnau nefol dân;
awelon Mynydd Seion
a nertha ‘nghamre ‘mlaen;
dan awel Mynydd Seion
mi genais beth cyn hyn;
mi ganaf ronyn eto
nes cyrraedd Seion fryn.

DAFYDD WILLIAM, 1721?-94

(Caneuon Ffydd 581)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015