logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd Dduw, sy’n dal colofnau’r cread

O Arglwydd Dduw, sy’n dal colofnau’r cread
a thynged nef a daear yn dy law,
rho inni ras i dderbyn trefn dy gariad
heb ryfyg ffôl nac ofnau am a ddaw;
cans er pob dysg a dawn a roed i ni
nid oes i’n bywyd ystyr hebot ti.

Tywyll yw’r ffordd i ni drwy ddryswch bywyd,
ni allwn weld un cam o’r daith ymlaen;
i ti nid oes un gilfach o’r cyfanfyd
nad yw yn olau amlwg fyth o’th flaen;
rho inni ddysgu gennyt ffordd y ffydd
i rodio yn d’oleuni di bob dydd.

Tydi yw awdur cân a phob gorfoledd,
ac ynot ti mae holl ddedwyddwch dyn;
mae hedd a chymod, gobaith a thrugaredd,
a phob cyflawnder ynot ti dy hun;
O tywys ni, anniddig blant y llawr,
i brofi’r gras sydd yn dy enw mawr.

Yn dy ddoethineb rhoddaist inni allu
i ddofi natur a meistroli’r byd,
ond yn ein balchder troesom i ormesu,
ac ar ddifetha’n gilydd aeth ein bryd;
O rasol Arglwydd, tro’n calonnau ni
i geisio’r hedd a geir o Galfarî.

GWILYM R. TILSLEY, 1911-97  © Gareth M. Tilsley

(Caneuon Ffydd: 137)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016