logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth

O Arglwydd Dduw rhagluniaeth
ac iachawdwriaeth dyn,
tydi sy’n llywodraethu
y byd a’r nef dy hun;
yn wyneb pob caledi
y sydd neu eto ddaw,
dod gadarn gymorth imi
i lechu yn dy law.

Er cryfed ydyw’r gwyntoedd
a chedyrn donnau’r môr,
doethineb ydyw’r Llywydd,
a’i enw’n gadarn Iôr:
er gwaethaf dilyw pechod
a llygredd o bob rhyw,
dihangol byth heb soddi,
am fod yr arch yn Dduw.

1. GRAWN-SYPPIAU CANAAN, 1805 2. ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 84)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan