logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn

Priodas

O Arglwydd Dduw pob hyfryd ddawn,
ffynhonnell cariad gwir,
ar addunedau’r oedfa hon
tywynned golau clir.

O derbyn di dy weision hyn
a serch eu calon hwy,
na ddeued oerwynt byth na brad
i roddi iddynt glwy’.

A fflam dy ddwyfol gariad mawr
a welwyd ar y groes,
i’w calon roddo sanctaidd wres
a bery drwy eu hoes.

Boed rhin dy bresenoldeb di
yn nawdd i’w haelwyd wen,
d’awdurdod estyn drostynt hwy,
i’w cartref bydd yn ben.

Bendithia holl deuluoedd byd
â grasol lendid nef,
a thrwyddynt rhwymer dynol-ryw
yn un frawdoliaeth gref.

LEWIS VALENTINE, 1893-1986 © Catrin Gweirrul Hughes. Defnyddiwyd drwy ganiatâd.

(Caneuon Ffydd: 634)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 11, 2016