logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Arglwydd da, argraffa

O Arglwydd da, argraffa
dy wirioneddau gwiw
yn rymus ar fy meddwl
i aros tra bwyf byw;
mwy parchus boed dy ddeddfau,
mwy annwyl nag erioed,
yn gysur bônt i’m calon,
yn llusern wiw i’m troed.

Myfyrdod am Gyfryngwr
a phethau dwyfol, drud
fo’n llanw ‘nghalon wamal
yn felys iawn o hyd,
a bydded prawf maddeuant,
yr heddwch sydd drwy’r Iawn,
yn trigo yn fy mynwes
o fore hyd brynhawn.

ISAAC WATTS, 1674-1748 cyf. DAVID CHARLES, 1803-80

(Caneuon Ffydd 332)

PowerPoint