logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O anfon di yr Ysbryd Glân

O anfon di yr Ysbryd Glân
yn enw Iesu mawr,
a’i weithrediadau megis tân
O deued ef i lawr.

Yn ôl d’addewid fawr ei gwerth,
O Arglwydd, tywallt di
dy Ysbryd Sanctaidd gyda nerth
i weithio arnom ni.

O’th wir ewyllys deued ef
i argyhoeddi’r byd
ac arwain etifeddion nef
drwy’r anial maith i gyd.

Yn ôl d’addewid, Iesu mawr,
yr awron anfon di
y gwir Ddiddanydd yma i lawr
i aros gyda ni.

JOHN HUGHES, 1775-1854

(Caneuon Ffydd 568)

PowerPoint