logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O am nerth i dreulio ‘nyddiau

O am nerth i dreulio ‘nyddiau
yng nghynteddoedd tŷ fy Nhad,
byw ynghanol y goleuni,
t’wyllwch obry dan fy nhraed;
byw heb fachlud haul un amser,
byw heb gwmwl, byw heb boen,
byw ar gariad anorchfygol,
pur y croeshoeliedig Oen.

Dyro olwg ar dy haeddiant,
golwg ar dy deyrnas rad,
brynwyd imi ac a seliwyd,
seliwyd im â’th werthfawr waed:
rho im gyrchu tuag ati,
peidio byth â llwfwrhau;
ar fy nhaith ni cheisiaf gennyt
ond yn unig dy fwynhau.

Gyda thi mi af drwy’r fyddin,
gyda thi mi af drwy’r tân;
‘d ofnaf ymchwydd llif Iorddonen
ond i ti fynd yn y blaen;
ti yw f’amddiffynfa cadarn,
ti yw ‘Mrenin, ti yw ‘Nhad,
ti dy hunan oll yn unig
yw fy iachawdwriaeth rad.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 732)

PowerPoint