logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O am dafodau fil mewn hwyl

O am dafodau fil mewn hwyl
i seinio gyda blas
ogoniant pur fy Mhrynwr gwiw
a rhyfeddodau’i ras.

Fy ngrasol Arglwydd i a’m Duw,
rho gymorth er dy glod
i ddatgan mawl i’th enw gwiw
drwy bobman is y rhod.

Dy enw di, O Iesu mawr,
a lawenycha’n gwedd;
pêr sain i glust pechadur yw,
mae’n fywyd ac yn hedd.

Genhedloedd byd, trowch ato’n glau,
addefwch ef yn Dduw;
cewch oll yn rhad eich cyfiawnhau
drwy ffydd yn Iesu gwiw.

Fyddariaid, clywch! chwi fudion rai,
clodforwch Frenin hedd;
y dall a’r cloff fo’n llawenhau
mewn golwg ar ei wedd.

O rhoddwn fawl i Frenin nef,
moliannwn ef ynghyd;
fy enaid, mola dithau ef,
rho arno’n llwyr dy fryd.

CHARLES WESLEY O for a thousand tongues to sing, 1707-88 cyf. ROBERT WILLIAMS, 1804-55

(Caneuon Ffydd 288; Grym Mawl 1: 123)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015