logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O am bara i uchel yfed

O am bara i uchel yfed
o ffrydiau’r iachawdwriaeth fawr
nes fy nghwbwl ddisychedu
am ddarfodedig bethau’r llawr;
byw dan ddisgwyl am fy Arglwydd,
bod, pan ddêl, yn effro iawn
i agoryd iddo’n ebrwydd
a mwynhau ei ddelw’n llawn.

Rhyfeddu wnaf â mawr ryfeddod
pan ddêl i ben y ddedwydd awr
caf weld fy meddwl sy yma’n gwibio
ar ôl teganau gwael y llawr,
wedi ei dragwyddol setlo
ar wrthrych mawr ei Berson ef,
a diysgog gydymffurfio
â phur a sanctaidd ddeddfau’r nef.

ANN GRIFFITHS, 1776-1805

(Caneuon Ffydd 723)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 27, 2015