logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O am awydd cryf i feddu

O am awydd cryf i feddu
ysbryd pur yr addfwyn Iesu,
ysbryd dioddef ymhob adfyd,
ysbryd gweithio drwy fy mywyd.

Ysbryd maddau i elynion
heb ddim dial yn fy nghalon;
ysbryd gras ac ysbryd gweddi
dry at Dduw ymhob caledi.

O am ysbryd cario beichiau
a fo’n llethu plant gofidiau;
ar fy ngeiriau a’m gweithredoedd
bydded delw lân y nefoedd.

THOMAS MORGAN, 1850-1939

(Caneuon Ffydd 819)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015