logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O agor fy llygaid i weled

O agor fy llygaid i weled
dirgelwch dy arfaeth a’th air,
mae’n well i mi gyfraith dy enau
na miloedd o arian ac aur-,
y ddaear â’n dân, a’i thrysorau,
ond geiriau fy Nuw fydd yr un;
y bywyd tragwyddol yw ‘nabod
fy Mhrynwr yn Dduw ac yn ddyn.

Rhyfeddod a bery’n ddiddarfod
yw’r ffordd a gymerodd efe
i gadw pechadur colledig
drwy farw ei hun yn ei le;
fe safodd fy Mrenin ei hunan,
gorchfygodd hiliogaeth y ddraig;
ein Llywydd galluog ni ydyw:
O caned preswylwyr y graig.

Daeth blwyddyn y caethion i ganu,
doed meibion y gaethglud ynghyd,
a seiniwn drwy’r nefoedd a’r ddaear
ogoniant i Brynwr y byd;
mae Brenin y nef yn y fyddin,
gwae Satan a’i filwyr yn awr;
trugaredd a hedd sy’n teyrnasu,
mae undeb rhwng nefoedd a llawr.

MORGAN RHYS, 1716-79

(Caneuon Ffydd 263)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 13, 2015