logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nyni sydd ar y llawr

Ysbrydolioaeth Beiblaidd (Datguddiad 1:6)

Nyni sydd ar y llawr yn ddim,
Wnaeth E’n frenhinoedd nêf,
Angylion Duw yn dal ein llaw
A’n tywys tua thref.

Edrychwn ar frenhinoedd byd
Yn drist am fod i’r rhain,
Ein gweld, sydd ar y llawr, yn neb,
Cyff gwawd a choron ddrain.

Ond cerddwn wastad gydag Ef;
Glân yn ein gynnau gwyn,
Ar bererindod tua’r nef
Ar sail Calfaria fryn.

Fe awn ar hyd y llwybrau gras
A drefnodd Duw i ni,
O’r fraint, o’r fraint, cael bod yn was
I’r Gŵr ar Galfari.

Drwy niwl a thân, â’r Ysbryd Glân
Mi welwn fyd a ddaw,
Ac mi ymffrostiwn yn y gwaed,
Ymffrostiwn yn ddi-daw.

Y wisg a gefais, O mor wyn
Cyfiawnder Duw i’m bron,
A bydd fy ngafael ynddi’n dynn,
Wrth ado’r ddaear hon.

Geiriau: Alwyn Pritchard
Awgrymir y dôn ‘Belmont’ (Caneuon Ffydd, 139)

PowerPoint Belmont
  • Gwenda Jenkins,
  • June 15, 2018