logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid wy’n gofyn bywyd moethus

‘Calon Lân’

Nid wy’n gofyn bywyd moethus,
aur y byd na’i berlau mân,
gofyn ‘rwyf am galon hapus,
calon onest, calon lân.

Calon lân yn llawn daioni,
tecach yw na’r lili dlos;
dim ond calon lân all ganu,
canu’r dydd a chanu’r nos.

Pe dymunwn olud bydol
chwim adenydd iddo sydd;
golud calon lân, rinweddol
yn dwyn bythol elw fydd.

Hwyr a bore fy nymuniad
gwyd i’r nef ar adain cân
ar i Dduw, er mwyn fy Ngheidwad,
roddi imi galon lân.

GWYROSYDD, 1847-1920

(Caneuon Ffydd 780)

PowerPoint Gwrando

  • Gwenda Jenkins,
  • March 30, 2015