logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid oes pleser, nid oes tegan

(Rhinweddau enw Iesu)

Nid oes pleser, nid oes tegan
Nid oes enw mewn un man,
Er ei fri a’i holl ogoniant,
Fyth a lesia i’m henaid gwan
Ond fy Iesu:
Ef ei Hunan yw fy Nuw.

Mae deng myrddiwn o rinweddau
Dwyfol yn ei enw pur;
Yn ei wedd mae tegwch ragor
Nag a welodd môr na thir;
A’i gyffelyb
Chwaith ni welodd nef y nef.

Mae E’n maddau beiau mawrion,
Mae E’n caru yn ddidrai,
A’r lle caro, mae ei gariad
Yn dragwyddol yn parhau:
Nid oes terfyn
I’w amynedd Ef, a’i ras.

Ynddo mae afonydd mawrion
O ffyddlondeb ac o hedd;
Ef fy mwyn dioddefodd angau,
A gorweddodd yn y bedd,
Fel y gallwn
Fynd i mewn i’r ddinas byr.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 472)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 26, 2015