logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid oes enw gwell na Iesu

Nid oes enw gwell na Iesu,
enw’r hwn sydd yn gwaredu,
deuwn ato yn un teulu,
plygwn iddo ef.

Deued ato blant y gwledydd,
iddynt hwy y mae’n arweinydd,
dilyn Iesu sy’n llawenydd,
O canlynwn ef.

Bydded i bobol pob gwlad a thref
godi eu lleisiau yn llon eu llef,
chwydded y gân gan dyrfa gref,
canwn iddo ef.

Yn ein meddwl ffydd arhoso,
yn ein calon cariad fyddo,
a’n gwefusau a ddywedo:
Iesu, Ceidwad yw.

© DONALD M. TREHARNE

(Caneuon Ffydd: 409)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • January 18, 2016