logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid oes eisiau un creadur

Nid oes eisiau un creadur
Yn bresennol lle bo Duw;
Mae E’n fwyd, y mae E’n ddiod,
Nerth fy natur egwan yw:
Pob hapusrwydd
Sydd yn aros ynddo’i Hun.

Gyrrwch fi i eithaf twllwch,
Hwnt i derfyn oll sy’n bod,
I ryw wagle dudew anial,
Na fu creadur ynddo ‘rioed;
Hapus hapus
Fyddaf yno gyda Thi.

Nid oes unman imi’n gartref,
Nid oes drigfan o un rhyw
Alla’i galw yn hyfrydwch
Imi’n awr ond mynwes Duw;
Yn ei fynwes
Mae fy naear i a’m nef.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • February 28, 2017