logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nid gosgordd na brenhinol rwysg

Nid gosgordd na brenhinol rwysg
Gaed i Frenin Nef,
Na gwylnos weddi dan y sêr
Ar ei farw Ef;
Na baner bri ar hanner mast
Er gwarth y Groes,
Na blodau’n perarogi’r ffordd
Arweiniai at
Ei fedd ar y Pasg cyntaf un.

Dim torchau’n deyrnged ar y llawr –
Gwatwar milwyr gaed,
A dim ond coron greulon ddrain
Lle rhoes Ef ei waed;
A ‘Brenin yr Iddewon’ oedd
Y geiriau gwawd
Adawyd gan y dorf ddi-hid;
Ni wyddai neb
Mai hwn oedd y Pasg cyntaf un.

Ond cana’r greadigaeth hardd
Fawl i Frenin Nef.
A dywaid clwstwr drud y sêr
‘Dewch, addolwch Ef!’
Blodeuodd dwy fil gwanwyn mwy
Ai digon yw?
Ni thawaf nes daw’r byd yn grwn
I ganu cân
Ei gariad y Pasg cyntaf un.

Fy ngweddi fydd yn bersawr drud
Nawr i Frenin Nef;
Fy nghariad fydd y blodau hardd
Roddaf iddo Ef;
Fy ngwylnos fydd ei ddisgwyl Ef
Hyd nes y daw;
Fy nheyrnged fydd ei ddilyn Ef,
A siarad am
Ei gariad y Pasg cyntaf un.

Cyn hir pob llygad cnawd a wêl
Rymus Goncrwr bedd,
A saint pob oes fydd wrth ei fwrdd –
Rhannant yn ei wledd;
Cael cwmni’r gwaredigion fydd
Ei wobr fawr,
A’u mawl tragwyddol ym mhob iaith
Yn deyrnged hardd
I’w aberth y Pasg cyntaf un.

Graham Kendrick: No scenes of stately majesty, cyfieithiad awdurdodedig: Casi Jones
© 1997 Make Way Music

(Grym Mawl 2: 102)

PowerPoint