logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni wn paham (Londonderry Air)

Ni wn paham fod gwrthrych mawl Angylion
Yn rhoi ei fryd ar achub dynol ryw;
Pam bu i’r Bugail geisio yr afradlon
I’w gyrchu adref ‘nôl i gorlan Duw?
Ond hyn a wn, ei eni Ef o Forwyn,
A phreseb Bethlem roddwyd iddo’n grud,
A rhodiodd isel lwybrau Galilea,
Ac felly rhoddwyd Ceidwad, Ceidwad gwiw i’n byd.

Ni wn pa faint a ddïoddefai’n dawel
Wrth estyn hedd i fyd trallodus dyn,
Na chwaith ei ofid wrth i’w galon rwygo
Tra’n hongian ar y groesbren wrtho’i Hun;
Ond hyn a wn, iachâ y galon ddrylliog,
Glanha yr aflan, rhydd i’r ofnus hedd,
Gan godi baich yr euog a thrwm-lwythog,
Cans gwn y cododd Ceidwad, Ceidwad byw o’r bedd.

Ni wn pa fodd cyhoeddir iachawdwriaeth
I’r holl genhedloedd ar hyd daear las –
Sut daw i’r gogledd, de, gorllewin, dwyrain
Newyddion da efengyl dwyfol ras;
Ond hyn a wn, fe wêl o ffrwyth ei lafur
Ac o bob llwyth daw ffrwyth i’w aberth drud,
Ac ym mhob iaith fe glywir buddugoliaeth
Pan lwydda’r sôn am Geidwad, Ceidwad cry’ drwy’r byd.

Ni wn pa ddydd y daw’r Gwaredwr eilwaith
Mewn buddugoliaeth ar gymylau’r nef,
Na sut y cesglir holl genhedloedd daear
I’w barnu oll gerbron ei orsedd Ef;
Ond hyn a wn, fe’i gwelir mewn gogoniant –
Pob glin a blŷg, a’r utgorn mawr a chwyth,
A llenwir nef a daear gyda’i foliant
Wrth weld y Crist yn Frenin, Brenin nef dros byth.

W.Y. Fullerton: I cannot tell – efelychiad Dafydd M Job

PowerPoint