logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni welodd llygad dyn erioed

Ni welodd llygad dyn erioed,
ni chlywodd clust o dan y rhod
am neb cyffelyb iddo ef:
O Rosyn Saron hardd ei liw:
pwy ddyd i maes rinweddau ‘Nuw?
Efe yw bywyd nef y nef.

O f’enaid, edrych arno nawr,
yn llanw’r nef, yn llanw’r llawr;
yn holl ogoniant dŵr a thir;
nid oes, ni fu erioed, ni ddaw,
o’r dwyrain i’r gorllewin draw,
gyffelyb i’m Hanwylyd pur.

Mi garaf fy Anwylyd mwy,
ddioddefodd drosof farwol glwy’,
agorodd ffynnon loyw, fyw
i olchi’r holl archollion wnaed
gan bechod cas, o’m pen i’m traed,
y dyfroedd dardd dan groes fy Nuw.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 352; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 358)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015