logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn

Ni ganwn am gariad Creawdwr yn ddyn,
enynnodd cyn oesoedd o fewn iddo’i hun;
ni chwilia cerwbiaid, seraffiaid na saint
ehangder na dyfnder nac uchder ei faint.

Rhyfeddod angylion yng nghanol y nef,
rhyfeddod galluoedd a thronau yw ef;
diffygia’r ffurfafen a’i sêr o bob rhyw
cyn blinaf fi ganu am gariad fy Nuw.

Fy enaid, gwêl gariad yn fyw ar y pren,
ac uffern yn methu darostwng ei ben;
er marw fy Iesu, er hoelio fy Nuw,
parhaodd ei gariad drwy angau yn fyw.

O ryfedd ddoethineb – rhyfeddod ei hun –
a ffeindiai’r fath foddion i brynu’r fath un;
fy Iesu yn marw, fy Iesu oedd Dduw,
yn marw ar groesbren i minnau gael byw.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 529)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015