Ni fethodd gweddi daer erioed
â chyrraedd hyd y nef,
ac mewn cyfyngder, f’enaid, rhed
yn union ato ef.
Ac nid oes cyfaill mewn un man,
cyffelyb iddo’n bod,
pe baem yn chwilio’r ddaear faith
a holl derfynau’r rhod.
Ymhob rhyw ddoniau mae e’n fawr,
anfeidrol yw ei rym,
ac nid oes pwysau ar ei ras
na’i haeddiant dwyfol ddim.
Mae ei ffyddlondeb fel y môr,
heb fesur a heb drai,
a’i drugareddau hyfryd sy’n
dragywydd yn parhau.
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91
(Caneuon Ffydd 166)
PowerPoint