logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni chollwyd gwaed y groes

Ni chollwyd gwaed y groes
Erioed am ddim i’r llawr;
Na dioddef angau loes
Heb rhyw ddibenion mawr!
A dyna oedd ei amcan Ef –
Fy nwyn o’r byd i deyrnas nef.

N’âd imi garu mwy
Y pechod drwg ei ryw –
Y pechod roddodd glwy’
I’m Prynwr, O! fy Nuw.
N’ad imi garu dim ond Ti
O’r ddaer i eitha’r nefoedd fry.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 8, 2017