logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni allodd angau du ddal Iesu’n gaeth

Ni allodd angau du
ddal Iesu’n gaeth
ddim hwy na’r trydydd dydd –
yn rhydd y daeth;
ni ddelir un o’i blant
er mynd i bant y bedd,
fe’u gwelir ger ei fron
yn llon eu gwedd.

O Dduw, dod imi ffydd,
bob dydd o’r daith
weld Seion yn nesáu
dros fryniau maith:
yn Ben mae yno’n byw
fy Iesu’n Dduw a dyn
fu yma’n wael ei wedd
mewn bedd ei hun.

Dy gwmni i ddwyn y groes
O moes i mi;
er gwaethaf angau a’i frad
ein Tad wyt ti;
ac er fy rhoi’n y llwch
mewn t’wyllwch dros ryw bryd,
ni’m cleddir o’i ŵydd e’
mewn lle’n y byd.

GWILYM AB ELIS, 1752-1810

(Caneuon Ffydd 764)

PowerPoint