logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni all angylion pur y nef

Ni all angylion pur y nef,
Â’u doniau amal hwy,
Fyth osod allan werthfawr bris
Anfeidrol ddwyfol glwy’.

Dioddefodd angau, dygyn boen,
A gofir tra fo’r nef,
Fy nerth, fy nghyfoeth i a’m braint,
A’m noddfa lawn yw Ef.

Fe’m denodd i, yn ddirgel iawn
A distaw, ar ei ôl;
Ac mewn afonydd dyfnion lawn,
Cymerodd fi’n ei gôl.

Na foed fy mywyd bellach mwy
Yn eiddo i mi fy hun;
Ond treulier fy munudau i gyd
Yn glod i’m Harglwydd cun.

William Williams, Pantycelyn

PowerPoint