logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ni all angylion nef y nef

Ni all angylion nef y nef
Fynegi maint ei gariad Ef,
Mae angau’r Groes yn drech na’u dawn:
Bydd canu uwch am Galfari
Na dim a glybu angylion fry,
Pan ddelo Salem bur yn llawn.

Am iddo farw ar y bryn,
Cadd f’enaid bach ei brynu’n llyn
A’i dynnu o’i gadwynau’n rhydd:
Wel, bellach, dan ei haeddiant Ef,
Fel cysgod rhyw gedrwydden gref,
Gorffwysaf mwy yng ngwres y dydd.

William Williams, Pantycelyn

(Y Llawlyfr Moliant Newydd: 356)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • June 24, 2015