logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Ngoleudy i

Pennill 1
Pan dw i’n stryglo, (yn) amau’r gwir
Pan dw i’n methu ti’n ffyddlon im
Bydd dy gariad gyda mi
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin.

Pennill 2
Drwy’r tawelwch, mae d’afael cry
Drwy’r cwestiynnu, Ti ydy’r gwir
Bydd dy gariad gyda mi
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin.

Cytgan
’Ngoleudy i, ’Ngoleudy i
Yn goleuo’r twyllwch.
Dw i’n dy ddilyn di.
’Ngoleudy i, ’Ngoleudy i –
Credaf dy addewid
Byddi’n f’arwain i’n saff i’r lan
Saff i’r lan saff i’r lan saff i’r lan

Pennill 3
Wna i ddim ofni beth bynnag ddaw
Bob un bore fe ganaf fawl
Cariad Duw fydd gyda mi
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin
Ti ydy’r hedd yn fy stormydd blin

Pont
Dân o’n blaen ni.
D’olau llachar
sy’n ein harwain
drwy bob storm
(Ailadrodd x3)

’Ngoleudy i
My Lighthouse (Chris Llewellyn | Gareth Gilkeson)
Cyfieithiad awdurdodedig Arfon Jones
© 2013 Thankyou Music (Gwein. gan Integrity Music)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021