logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nerthol groes

Ar y dydd yr ildiodd angau
I nerthol groes fy Arglwydd Iesu Grist
Y ddaer yn siglo dan holl bwysau
Y tywyll nen

Coron galar ar ei dalcen
Y brenin tlawd a’i wendid oedd ein nerth
Yn ddistaw dangos wnaeth ei gariad
I bawb gael gweld

O nawr croes fy Iesu Grist
Yw y rheswm ’mod i’n fyw
Mae Ei waed yn fy rhyddhau
Ac ni cholla fyth ei rym i mi

Nawr mae gwawr yr atgyfodiad
Yn llifo golau gobaith yn y nos
Ein gwared ni a chwalu’n maglau
Fe godwn ni

Haleliwia, Haleliwia, Crist fy muddugoliaeth
Haleliwia, Haleliwia, enillwyd hyn i mi

Ar y dydd y daw mewn ’sblander
I ddatgelu’i deyrnas Ef yn llawn
A bydd pob calon yn ymgrymu
I’w enw Ef

Corws (X2)

Nerthol groes
Mighty cross (Jane Williams | Jason Ingram | Matthews Ntlele | Steven Furtick)
Cyfieithiad awdurdodedig Arwel E. Jones
© Music by Elevation Worship Publishing (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
Open Hands Music (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)
So Essential Tunes (Gwein. gan Essential Music Publishing LLC)

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • September 29, 2021