logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nefol Dad, erglyw ein gweddi

Nefol Dad, erglyw ein gweddi
wrth wynebu’r flwyddyn hon,
mae’n hamserau yn dy ofal,
a’n helyntion ger dy fron;
dyro brofi
hedd dy gariad, doed a ddêl.

Nefol Dad, er gwaetha’n blinder
pan fo’r daith yn siomi’n bryd,
ninnau’n amau dy ddaioni
ac yn credu’n hofnau i gyd,
dyro brofi
hedd dy gariad, doed a ddêl.

Nefol Dad, wrth gerdded rhagom
i unigedd ambell awr,
wedi colli llawer wyneb
a fu’n llonni llwybrau’r llawr,
dyro brofi
hedd dy gariad, doed a ddêl.

T. EIRUG DAVIES, 1892-1951 (Caneuon Ffydd:72)

PowerPoint PPt Sgrîn lydan

  • Gwenda Jenkins,
  • October 15, 2019