logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Nef yw i’m henaid ymhob man

Nef yw i’m henaid ymhob man
pan brofwyf Iesu mawr yn rhan;
ei weled ef â golwg ffydd
dry’r dywyll nos yn olau ddydd.

Mwynhad o’i ras maddeuol mawr,
blaen-brawf o’r nef yw yma nawr;
a darllen f’enw ar ei fron
sy’n nefoedd ar y ddaear hon.

Ac er na welaf ond o ran
ac nad yw profiad ffydd ond gwan,
y defnyn bach yn fôr a fydd
a’r wawr a ddaw yn berffaith ddydd.

ROBERT Ap GWILYM DDU, 1766-1850

(Caneuon Ffydd 688)

PowerPoint