logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Neb ond Iesu

PENNILL 1:
Mewn tawelwch
A llonyddwch
Fe wn mai Ti sydd Dduw
Yn nirgelwch dy gwmpeini
Fe wn y’m hadferir i
Wrth dy lais, nid gwrthod wnaf
A phob dydd, dy ddewis wnaf

CYTGAN:
Does neb arall nawr i mi
Neb ond Iesu
Ar y groes i’m rhyddhau i
A nawr rwy’n byw i ganu’i fawl

PENNILL 2:
Yn yr anrhefn, yn y dryswch
Fe wn dy fod wrth y llyw
Ac yn eiliad fy ngwendidau
Ti’n rhoi y gras i wneud d’wyllys di
Ac wrth dy lais, nid oedaf i
Dyma ’nghân drwy ’nyddiau’ gyd

PONT:
Rwy’n ymhyfrydu ynot, Iôr
’Ngobaith i gyd
A’r cyfan o’m nerth
Rwy’n ymhyfrydu ynot Iôr
Nawr ac am byth

Cerddoriaeth a geiriau: Brooke Ligertwood
Cyfieithiad Cymraeg: Arwel E. Jones
© 2006 Sony/ATV Music Publishing Australia (Awst. a SN yn unig)
Hillsong Music Publishing Australia (gweddill y byd)
CCLI # 7167844

Os ydych yn lawrlwytho’r geiriau o’r wefan hon disgwylir i chi gysylltu â’r CCLI i adrodd ar eich defnydd o’r geiriau a nodi rhif CCLI y geiriau Cymraeg.

PowerPoint
  • Rhys Llwyd,
  • February 10, 2021