logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

N’ad i’r gwyntoedd cryf, dychrynllyd

N’ad i’r gwyntoedd cryf, dychrynllyd,
gwyntoedd oer y gogledd draw,
ddwyn i’m hysbryd gwan, trafferthus,
ofnau am ryw ddrygau ddaw;
tro’r awelon
oera’u rhyw yn nefol hin.

Gwna i mi weld y byd a’i stormydd
yn diflannu cyn bo hir;
doed i’r golwg dros y bryniau
ran o’r nefol hyfryd dir;
im gael llonydd
gan holl derfysgiadau’r llawr.

Disgwyl ‘rwyf drwy hyd yr hirnos,
disgwyl am y bore-ddydd;
disgwyl clywed pyrth yn agor,
a chadwynau’n mynd yn rhydd;
disgwyl golau
pur yn nh’wyllwch tewa’r nos.

Daw, fe ddaw y wawr wen, olau
y bo’r cwmwl du yn ffoi,
tarth a niwl yn cyd-ddiflannu
a oedd wedi cydgrynhoi:
dyma’r oriau
‘rwy’n eu gweled draw drwy ffydd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 706; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 523)

PowerPoint