logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

N’ad im adeiladu’n ysgafn ar un sylfaen is y ne’

N’ad im adeiladu’n ysgafn
ar un sylfaen is y ne’;
n’ad im gymryd craig i orffwys
tu yma i angau yn dy le:
ti, fy Nuw, tra bwyf byw,
gaiff fod fy ngorffwysfa wiw.

Dyma’r maen sydd yn y gongol,
dyma’r garreg werthfawr, bur
gloddiwyd allan yn y bryniau,
bryniau tragwyddoldeb dir;
nid oes le, is y ne’,
i adeiladu ond efe.

Minnau’r gwaela’ o bechaduriaid,
yn y diwedd rhof fy nhroed
ar y graig sydd yn y moroedd,
craig gadarnaf fu erioed;
ceidw hon, rhag pob ton,
ofnau i ffwrdd o dan fy mron.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

PowerPoint