logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

N’ad fod gennyf ond d’ogoniant

N’ad fod gennyf ond d’ogoniant
pur, sancteiddiol, yma a thraw,
‘n union nod o flaen fy amrant
pa beth bynnag wnȇl fy llaw:
treulio ‘mywyd
f’unig fywyd, er dy glod.

O distewch gynddeiriog donnau
tra bwy’n gwrando llais y nef;
sŵn mwy hoff, a sŵn mwy nefol
glywir yn ei eiriau ef:
f’enaid gwrando
lais tangnefedd pur a hedd.

WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

(Caneuon Ffydd 705; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 478)

PowerPoint