logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Na foed cydweithwyr Duw

Na foed cydweithwyr Duw
byth yn eu gwaith yn drist
wrth ddwyn y meini byw
i’w dodi’n nhemel Crist:
llawenydd sydd, llawenydd fydd
i bawb sy’n gweithio ‘ngolau ffydd.

Mae gweithwyr gorau’r ne’
yn marw yn eu gwaith,
ond eraill ddaw’n eu lle
ar hyd yr oesoedd maith;
a ffyddlon i’w addewid fry
yw’r hwn a fu’n sylfaenu’r tŷ.

Mae’r Iesu eto’n fyw,
a’r gwaith sydd dan ei law;
ar gyfer gweithwyr Duw
mae bendith oesau ddaw:
llawenydd mawr ynghyd a gawn
ryw ddydd, wrth weld y tŷ yn llawn.

ELFED, 1860-1953

(Caneuon Ffydd 608)

PowerPoint