logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

N ôl marw Brenin hedd,

‘N ôl marw Brenin hedd,
a’i ffrindiau i gyd yn brudd,
a’i roi mewn newydd fedd,
cyfodai’r trydydd dydd;
boed hyn mewn cof gan Israel Duw,
mae’r Oen a laddwyd eto’n fyw.

Galarwyr Seion, sydd
â’ch taith drwy ddŵr a thân,
paham y byddwch brudd?
eich galar, troer yn gân:
O cenwch, etholedig ryw:
mae’r Oen a laddwyd eto’n fyw.

JOHN THOMAS, 1730-1804?

(Caneuon Ffydd 546)

PowerPoint
  • Gwenda Jenkins,
  • March 25, 2015