logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Mynnais wlad

Ysbrydoliaeth Beiblaidd: Luc 15, Y mab wnaeth wrthryfela (Dameg y Mab Afradlon)

Mynnais wlad yn bell o olwg
Tiroedd ffrwythlon tŷ fy Nhad;
Yno ‘roedd fy ffrindiau’n ffyddlon,
nes i’m brofi’n llwyr eu brad.
Pechod aflan, do fe’m gyrrodd
‘Nes a nes at gibau’r moch,
Ond dy Ysbryd a’m gwaredodd
O dynfa gref y byd a’i groch.

Adref, adref, rhedais innau,
Gyda dagrau lawr fy ngrudd;
Pa fath bennyd, pa fath gerydd,
Mofyn bara, – minnau’n brudd?
O’ch, mi gefais y fath groeso,
Dod i’m cwfwr oedd fy Nhad,
Fe’m cofleidiodd a’m cusanodd
Gyda’i gariad, llawn boddhad.

Ger dy fron yr wyf edifar
Nid wy’n haeddu dim fy Nhad,
Cymer fi fel un gwas cyflog
Fel fy mod ar dir Dy stâd.
Canodd nefoedd, Canodd daear,
Canodd engyl teg eu gwedd,
Pan ddychwelwyd fi i’r gorlan
Drefnodd Iesu’r aberth hedd.

Dygaist i’m y wisg wen orau
Pan ddois adref i fy ngwlad;
Cefais fodrwy, ‘rwyf etifedd
Holl drysorau tŷ fy Nhad.
Gwnest fi’n hardd gerbron dy orsedd
Mae’r esgidiau am fy nhraed,
Gwleddais ar y llo pasgedig
Ac fe’m golchwyd yn y gwaed.

Geiriau: Alwyn Pritchard
Awgrymir y dôn Blaenwern (Caneuon Ffydd, 595)

PowerPoint Blaenwern