logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Yn Eden, cofiaf hynny byth

Yn Eden, cofiaf hynny byth, bendithion gollais rif y gwlith; syrthiodd fy nghoron wiw. Ond buddugoliaeth Calfarî enillodd hon yn ôl i mi: mi ganaf tra bwyf byw. Ffydd, dacw’r fan, a dacw’r pren yr hoeliwyd arno D’wysog nen yn wirion yn fy lle; y ddraig a ‘sigwyd gan yr Un, cans clwyfwyd dau, concwerodd […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef

Ymhlith holl ryfeddodau’r nef hwn yw y mwyaf un gweld yr anfeidrol, ddwyfol Fod yn gwisgo natur dyn. Ni chaiff fod eisiau fyth, tra bo un seren yn y nef, ar neb o’r rhai a roddo’u pwys ar ei gyfiawnder ef. Doed y trueiniaid yma ‘nghyd, finteioedd heb ddim rhi’; cânt eu diwallu oll yn […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015

Y mae’r dyddiau’n dod i ben

Y mae’r dyddiau’n dod i ben, dyddiau hyfryd, y dyrchefir Brenin nen dros yr hollfyd; fe â dwyfol angau drud pen Calfaria drwy ardaloedd pella’r byd: Halelwia! WILLIAM WILLIAMS, 1717-91 (Caneuon Ffydd 267; Y Llawlyfr Moliant Newydd: 384)

  • Gwenda Jenkins,
  • March 4, 2015

Ysbryd Glân y bywiol Dduw

Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Ysbryd Glân y bywiol Dduw, Disgyn arnaf fi; Rwyf am i ti ’meddiannu i. Ysbryd Glân fy Nuw, Disgyn arnaf fi. Paul Armstrong: Spirit of the Living God, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones Hawlfraint © 1984 Restoration Music Ltd/Sovereign Music UK Grym mawl 1: 149


Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi

Yr Arglwydd Dduw sydd gyda thi, Y Brenin ydyw Ef; Fe orfoledda ynot ti, A’th adnewyddu ynddo’i hun; Fe lawenycha dy Dduw Gan ganu cân, canu cân, Canu cân, canu cân, Canu cân. The Lord your God is in your midst: anad. Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones (Grym mawl 1: 153)

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Y mae nerth yn enw Iesu

Y mae nerth yn enw Iesu – Credu wnawn ynddo Ef. Ac fe alwn ar enw Iesu: ‘Clyw ein llef Frenin nef! Ti yw’r un wna i’r diafol ffoi, Ti yw’r un sy’n ein rhyddhau.’ Does un enw arall sydd i’w gymharu  Iesu. Y mae nerth yn enw Iesu – Cleddyf yw yn fy […]


Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr

Ysbryd Duw, tyrd chwytha arna’i nawr, Bywyd newydd rho i’m henaid i. Tyrd ac adnewydda ’nghalon friw Gyda phresenoldeb f’Arglwydd byw. Gwna i’th Air fywiogi mywyd i, Rho i’m ffydd i weld Dy law ar waith. Gwna fi’n danbaid dros dy burdeb llwyr, Ysbryd Duw tyrd, chwytha arna i. Ysbryd Duw, cartrefa ynof fi, Dangos […]