Ysbryd y gorfoledd, tyrd i’n calon ni, fe ddaw cân i’n henaid wrth d’adnabod di; cyfaredda’n hysbryd â llawenydd byw nes in lwyr feddiannu cyfoeth mawr ein Duw. Ysbryd y gwirionedd, rho dy lewyrch clir, arwain ni o’r niwloedd at oleuni’r gwir; rho i ni’r ddoethineb sydd mor lân â’r wawr, tyn ein henaid gwamal […]
Yr afon a lifodd rhwng nefoedd a llawr, Yw gwraidd fy ngorfoledd a’m cysur yn awr; Calfaria roes haeddiant, Calfaria roes hedd; Calfaria sy’n cadw agoriad y bedd. Mae angau ei hunan, ei ofnau a’i loes, Mewn cadwyn gadarnaf yn rhwym wrth dy Groes; Allweddau hen uffern ddychrynllyd i gyd Sy’n hongian wrth ystlys Iachawdwr […]
Y mae arnaf fil o ofnau, Ofnau mawrion o bob gradd, Oll yn gwasgu gyda’i gilydd Ar fy ysbryd, bron fy lladd; Nid oes allu a goncweria Dorf o elynion sydd yn un – Concro ofn, y gelyn mwyaf, Ond dy allu Di dy Hun. Ofni’r wyf na ches faddeuant, Ac na chaf faddeuant mwy; […]
Y mae ysbryd yr Arglwydd Dduw arnaf fi, Oherwydd i’r Arglwydd f’eneinio, I ddwyn newydd da i’r darostyngedig, A chysuro’r toredig o galon; I gyhoeddi rhyddid i’r caethion, Rhoi gollyngdod i’r carcharorion, I gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd A dydd dial ein Duw ni. Cytgan: I ddiddanu pawb sy’n galaru, A gofalu am alarwyr Seion. […]
Y mae hiraeth yn fy nghalon Am gael teimlo hyfryd flas Concwest nwydau sydd hyd heddiw Yn gwrthnebu’r nefol ras; Dyma ddawn hyfryd iawn, Wy’n ei ’mofyn fore a nawn. ‘Rwyf yn gweled bryniau uchel Gwaredigaeth werthfawr lawn; O! na chawn i eu meddiannu Cyn machludo haul brynhawn: Dyma ‘nghri atat Ti; Addfwyn Iesu, gwrando […]
Yn angau Crist caed haeddiant drud I faddau holl gamweddau’r byd, O flaen yr orsedd buraf sydd: Ni all euogrwydd yno ddim, Fe gyll melltithion Sinai’u grym, Trugaredd rad a garia’r dydd. Caf yno’n ddedwydd dawel fyw, Uwch brad gelynion o bob rhyw, O sŵn y drafferth a phob gwae; A threulio tragwyddoldeb mwy I […]
Ymhlith plant dynion, ni cheir un Yn ffyddlon fyth fel Iesu ei hun, Nid yw ei gariad, megis dyn, Yn gŵyro yma a thraw. Wel, dyna’r cariad sydd yn awr Yn curo pob cariadau i lawr, Yn llyncu enwau gwael y llawr Oll yn ei enw’i hun. O! fflam angerddol gadarn gref O dân enynnwyd […]
Yr hollalluog Dduw, ein Tad nefol, Fe bechasom yn d’erbyn Di Ac yn erbyn ein cyd-ddyn, Mewn meddwl, gair a gweithred, Trwy ddiofalwch, trwy wendid, A thrwy’n bai bwriadol ni. Mae yn ddrwg iawn gennym, Edifeiriol yw ein cri; Er mwyn enw dy Fab Iesu Grist Fu farw, Fu farw. Er mwyn i ni gael […]
Y mae hapusrwydd pawb o’r byd Yn gorffwys yn dy angau drud; Hyfrytaf waith angylion fry Yw canu am fynydd Calfari. O holl weithredoedd nef yn un, Y bennaf oll oedd prynu dyn; Rhyfeddod mwyaf o bob oes Yw Iesu’n marw ar y groes! Darfydded canmol neb rhyw un, Darfydded sôn am haeddiant dyn; Darfydded […]
Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni; Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni: plyg ni, trin ni, golch ni, cod ni: Ysbryd y tragwyddol Dduw, disgyn arnom ni. Daniel Iverson (1890-1977) : Spirit of the living God Cyfieithiad Awdurdodedig: IDDO EF/R. Glyn Jones Hawlfraint © 1935, Adnewyddwyd 1963 Birdwing Music. Gweinyddir gan CopyCare (Caneuon […]