(Pantyfedwen) Tydi a wnaeth y wyrth, O Grist, Fab Duw, tydi a roddaist imi flas ar fyw: fe gydiaist ynof drwy dy Ysbryd Glân, ni allaf tra bwyf byw ond canu’r gân; ‘rwyf heddiw’n gweld yr harddwch sy’n parhau, ‘rwy’n teimlo’r ddwyfol ias sy’n bywiocáu; mae’r Haleliwia yn fy enaid i, a rhoddaf, Iesu, fy […]
Tra bo adduned dau heb golli lliwiau’r wawr a’n cymod yn parhau o hyd yn drysor mawr, O Dduw ein Iôr, rho inni ffydd i gadw’r naws o ddydd i ddydd. Tra bo anturiaeth serch yn llawn o’r gobaith glân, a delfryd mab a merch yn troi yn felys gân, rho help i ni, O […]
Tyrd atom ni, O Grëwr pob goleuni, tro di ein nos yn ddydd; pâr inni weld holl lwybrau’r daith yn gloywi dan lewyrch gras a ffydd. Tyrd atom ni, O Luniwr pob rhyw harddwch, rho inni’r doniau glân; tyn ni yn ôl i afael dy hyfrydwch lle mae’r dragwyddol gân. Tyrd atom ni, Arweinydd pererinion, […]
Ti sy’n llywio rhod yr amser ac yn creu pob newydd ddydd, gwrando, Iôr, ein deisyfiadau a chryfha yn awr ein ffydd: ynot y cawn oll fodolaeth, ti yw grym ein bywyd ni, ‘rwyt Greawdwr a Chynhaliwr, ystyr amser ydwyt ti. Maddau inni oll am gredu mai nyni sy’n cynnal byd a bod gwaith ein […]
Tyrd, Ysbryd Glân, rho d’ olau clir I’n harwain drwy yr anial dir; Fel gallom ddilyn hwnnw a roes Ei fywyd trosom ar y groes; Yna, ‘n ôl gorffen ar ein gwaith, Cael gweld ei wedd ar ben y daith. Tyrd, Ysbryd Glân, i’w casglu oll, Dy blant sy’n cyflym fynd ar goll; Oddi wrth […]
Trwy nos galar ac amheuon Teithia pererinion lu, Ânt dan ganu cerddi Seion Tua gwlad addewid fry. Un yw amcan taith yr anial, Bywiol ffydd, un hefyd yw; Un y taer ddisgwyliad dyfal, Un y gobaith ddyry Duw. Un yw’r gân a seinia’r miloedd O un galon ac un llef; Un yw’r ymdrech a’r peryglon, […]
Yr adar bach sy’n canu Yn swynol ar y coed, Canmolant gariad Iesu, Y gorau fu erioed, Telynau bychain ydynt I lonni’r galon drist, ‘D oes allu i ddistewi Eu cân o fawl i Grist. Cytgan: Telynau bychain Iesu, a’u sain yn cyrraedd nef, I uno yn yr anthem. O foliant iddo Ef. Y blodau […]
Torri wnes fy addunedau Gant o weithiau maith eu rhi’, Ac mae’n rhaid wrth ras anfeidrol I gadw euog fel myfi; Wrth yr orsedd ‘r wyf yn cwympo, Ac nid oes un enw i maes Ag a rydd im feddyginiaeth Ond yn unig gorsedd gras. Minnau rois fy holl ymddiried, Iesu, arnat Ti dy Hun; […]
T’wynned heulwen ar fy enaid, Blinais ganwaith ar y nos; Nid yw ‘mhleser, na’m teganau, Na’m heilunod, ond fy nghroes; Mynwes Iesu yw f’hapusrwydd; O! na chawn i yno fod: Fe rôi cariad dwyfol perffaith Fy mhleserau dan fy nhroed. Eto unwaith mi ddyrchafaf Un ochenaid tua’r nef, Ac a ŵylaf ddagrau’n hidil Am ei […]
Trwy drugaredd, Arglwydd, Trwy dy ras, Tywallt d’ennaint Di Arnom ni nawr. Tynn fi’n ddyfnach, Arglwydd, Mwy bob dydd, Yn llif dy Ysbryd caf D’ewyllys Di. Tyred Ysbryd Glân, Tyred Ysbryd Glân, Tynn fi’n nes at Iesu yr Oen. Greg Leavers: By your mercy, Cyfieithiad Awdurdodedig: Cass Meurig © Greg Leavers