‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod bydd pob cyfandir is y rhod yn eiddo Iesu mawr; a holl ynysoedd maith y môr yn cyd-ddyrchafu mawl yr Iôr dros ŵyneb daear lawr. Mae teg oleuni blaen y wawr o wlad i wlad yn dweud yn awr fod bore ddydd gerllaw; mae pen y bryniau’n […]
‘R hwn sy’n gyrru’r mellt i hedeg ac yn rhodio brig y don, anfon saethau argoeddiadau i galonnau’r oedfa hon: agor ddorau hen garcharau, achub bentewynion tân; cod yr eiddil gwan i fyny, dysg i’r mudan seinio cân. Llama, Arglwydd, dros y bryniau, doed y dyddiau pur i ben pan fo Seion drwy fawr lwyddiant […]
‘Rwy’n dy garu, ti a’i gwyddost, ‘rwy’n dy garu, f’Arglwydd mawr; ‘rwy’n dy garu yn anwylach na’r gwrthrychau ar y llawr: darllen yma ar fy ysbryd waith dy law. Fflam o dân o ganol nefoedd yw, ddisgynnodd yma i’r byd, tân a lysg fy natur gyndyn, tân a leinw f’eang fryd: hwn ni ddiffydd tra […]
‘Rwy’n dewis Iesu a’i farwol glwy’ yn Frawd a Phriod imi mwy; ef yn Arweinydd, ef yn Ben, i’m dwyn o’r byd i’r nefoedd wen. Wel dyma un, O dwedwch ble y gwelir arall fel efe a bery’n ffyddlon im o hyd ymhob rhyw drallod yn y byd? Pwy wrendy riddfan f’enaid gwan? Pwy’m cwyd […]
‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell amdanat bob yr awr; tyrd, fy Anwylyd, mae’n hwyrhau a’m haul bron mynd i lawr. Tyn fy serchiadau’n gryno iawn oddi wrth wrthrychau gau at yr un gwrthrych ag sydd fyth yn ffyddlon yn parhau. ‘Does gyflwr dan yr awyr las ‘rwyf ynddo’n chwennych byw, ond fy hyfrydwch fyth […]
‘Rwy’n chwennych gweld ei degwch ef sy uwch popeth is y rhod, na welodd lluoedd nefoedd bur gyffelyb iddo erioed. Efe yw ffynnon fawr pob dawn, gwraidd holl ogoniant dyn; a rhyw drysorau fel y môr a guddiwyd ynddo’i hun. ‘Rwyf yn hiraethu am gael prawf o’r maith bleserau sy yn cael eu hyfed, heb […]
Rwy’n dyheu Arglwydd Dduw Amdanat ti, sychedu rwyf fy Nuw. Fe gusanaf d’wyneb di. Ac wrth it wrando fy nghri, Profaf dy gariad di, Derbyn di ’moliant i, Derbyn di ’mywyd i. Rwy’n dyheu Arglwydd Dduw Amdanat ti, sychedu rwyf fy Nuw. Fe ymgrymaf o’th flaen di. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, Lord, I’ll seek after […]
Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Tu draw i ddeall dyn, Godidog wyt, Pwy all d’amgyffred? O, Arglwydd, ’does ond ti dy hun. Pwy a ddysg dy ryfedd ddoethineb? Pwy all blymio dy fawr gariad di? Rwyt ti’n brydferth iawn tu hwnt i eiriau, Frenin Mawr, ar d’orsedd fry. Ac yn syn, yn […]
‘Rwyt fel y graig yn sefyll byth, Ffyddlon wyt ti; ‘Rwyt Ti’n ddoethach a mil harddach Na phawb a phopeth sy’. Rymus un, yn ofni dim, Gwir a chyfiawn yw dy ffyrdd, Fab Duw; Ond rwyt mor isel, rhoist dy fywyd di, Er mwyn i ni gael byw. Wrth droi fy wyneb atat Ti O! […]