logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

O Ysbryd byw, dylifa drwom

O Ysbryd byw, dylifa drwom, bywha dy waith â grym y groes. O Ysbryd byw, tyrd, gweithia ynom, cymhwysa ni i her ein hoes. O ddwyfol wynt, tyrd, plyg a thrin ni nes gweld ein hangen ger dy fron; ac achub ni â’th hael dosturi, bywha, cryfha; clyw’r weddi hon. O gariad Crist, chwyth arnom […]


O Dad, trugaredd rho im

O Dad, trugaredd rho im, iacha fi; O Dad, trugaredd rho im, rhyddha fi. Rho fy nhraed ar graig y gwir, Rho dy gân yn f’enaid i, f’enaid i. O Dad, trugaredd rho im. O Dad, boed i’th ras a’th gariad f’amddiffyn; O Dad, boed i’r gwir a’r unig ffordd fy arwain. Rho fy nhraed […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

O Dduw ein Iôr

O Dduw ein Iôr, bendigedig ydwyt ti, Y ddae’r sy’n llawn o’th ogoniant. O Dduw ein Iôr, mor drugarog ydwyt ti; Mor hardd, mor wych, ac mor ddyrchafedig. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. Fe’th ddyrchafwn di, fe’th ddyrchafwn di Orseddog Iôr yn Seion. O Dduw ein Tad, mor haelionus ydwyt […]


O Dduw, mae du gymylau barn

O Dduw, mae du gymylau barn Yn bygwth uwch ein byd, A ninnau’n euog. O Dduw, fe dorrwyd deddfau clir Dy gariad – gwêl ein gwae, Bywydau’n deilchion. O trugarha, (dynion) O trugarha, (merched) O maddau’n bai, (dynion) O maddau’n bai, (merched) O adfer ni – bywha dy eglwys Iôr. (pawb) A llifed barn (dynion) […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

O Iôr, ti yw fy Nuw

O Iôr, ti yw fy Nuw, Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod, Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod, Oherwydd gwir yw Gair ein Duw Gwnaethost ryfeddodau mawr. O Iôr, ti yw fy Nuw Dyrchafaf d’enw di, i ti bo’r clod. David J. Hadden: O Lord, you are my God, cyfieithiad awdurdodedig: Gwilym Ceiriog […]


O Dad, dy dynerwch di

O Dad, dy dynerwch di Sydd yn toddi’m chwerwder i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, dy harddwch di Sy’n dileu fy hagrwch i, O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. O Dad, diolch am dy ras. Cyfieithiad Awdurdodedig: Arfon Jones, O Lord, your tenderness: Graham Kendrick © […]


O adfer, Dduw

O adfer, Dduw, anrhydedd d’enw drud, Dy rym brenhinol nerthol A’th fraich a sigla’r byd, Nes dod a dynion mewn parchedig ofn At y bywiol Dduw – Dy Deyrnas fydd yn para byth. O adfer, Dduw, dy enw ym mhob man, Diwygia’th eglwys heddiw Â’th dân, cod hi i’r lan. Ac yn dy ddicter, Arglwydd, […]


O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd

O’r fath dywyllwch sy’n llethu ein byd – Anghyfiawnder, a gorthrwm a phoen. Gwledydd yn llithro’i anobaith mor ddwfn, Ond trodd tyrfa fawr at yr Oen. Gwelant wrthryfel drwy’r tir – Tristwch gorffwylledd ein hil. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd yn awr. Tyrd i’n plith ni Arglwydd Iesu, Tywallt dy Ysbryd […]


O gad im ddweud mod i’n dy garu

O gad im ddweud mod i’n dy garu, Diolch wnaf am fendithion mor ddrud; O gad im fyw yng nghysgodfa dy drugaredd, Gad im weld dy wyneb di. Boed i’r ddaear oll weld gogoniant Duw, Molwn ninnau yn unfryd ein cân. O gad im ddweud mod i’n dy garu, O fy Arglwydd, fy nghyfaill glân. […]