Mae llais y gwyliwr oddi draw yn dweud bod bore llon gerllaw: cymylau’r nos sy’n cilio ‘mhell o flaen goleuni dyddiau gwell, a daw teyrnasoedd daear lawr i gyd yn eiddo’n Harglwydd mawr. Y dwyrain a’r gorllewin sydd o’u rhwymau blin yn dod yn rhydd, ac unir de a gogledd mwy drwy ryfedd rinwedd marwol […]
Mae d’eisiau di bob awr, fy Arglwydd Dduw, daw hedd o’th dyner lais o nefol ryw. Mae d’eisiau, O mae d’eisiau, bob awr mae arnaf d’eisiau, bendithia fi, fy Ngheidwad, bendithia nawr. Mae d’eisiau di bob awr, trig gyda mi, cyll temtasiynau’u grym, yn d’ymyl di. Mae d’eisiau di bob awr, rho d’olau […]
Molwn di, O Arglwydd, Iôr hollalluog, dengys bryniau oesol in dy gadernid mawr; yn dy ddawn i faddau, tyner a thrugarog, codi o’r dyfnder wnei drueiniaid llawr. Gyfiawn, sanctaidd Arglwydd, ger bron dy burdeb, gwylaidd yw y nefoedd yn ei sancteiddiaf fri; golau claer dy ŵyneb loywa dragwyddoldeb, mola’r holl nefoedd dy ogoniant di. Cofiwn, […]
Mae’n llond y nefoedd, llond y byd, llond uffern hefyd yw; llond tragwyddoldeb maith ei hun, diderfyn ydyw Duw; mae’n llond y gwagle yn ddi-goll, mae oll yn oll, a’i allu’n un, anfeidrol, annherfynol Fod a’i hanfod ynddo’i hun. Clyw, f’enaid tlawd, mae gennyt Dad sy’n gweld dy fwriad gwan, a Brawd yn eiriol yn […]
Molwn di, O Dduw ein tadau, uchel ŵyl o foliant yw; awn i mewn i’th byrth â diolch ac offrymwn ebyrth byw; cofiwn waith dy ddwylo arnom a’th amddiffyn dros ein gwlad; tithau, o’th breswylfa sanctaidd, gwêl a derbyn ein mawrhad. Ti â chariad Tad a’n ceraist yn yr oesoedd bore draw, o dywyllwch i […]
Mae’r Duw anfeidrol mewn trugaredd, er mai Duw y cariad yw, wrth ei gofio, imi’n ddychryn, imi’n ddolur, imi’n friw; ond ym mhabell y cyfarfod y mae ef yn llawn o hedd, yn Dduw cymodlon wedi eistedd heb ddim ond heddwch yn ei wedd. Cael Duw yn Dad, a Thad yn noddfa, noddfa’n graig, a’r […]
Mae addewidion melys wledd yn gyflawn ac yn rhad yn dy gyfamod pur o hedd, tragwyddol ei barhad. ‘Rwyf finnau yn dymuno dod i’r wledd ddanteithiol, fras, ac felly mi gaf seinio clod am ryfedd rym dy ras. O rhwyma fi wrth byst dy byrth i aros tra bwyf byw, i edrych ar dy wedd […]
Mae gennyf ddigon yn y nef ar gyfer f’eisiau i gyd; oddi yno mae y tlawd a’r gwael yn cael yn hael o hyd. O law fy Nuw fe ddaw’n ddi-feth fy mywyd i a’m nerth, fy iechyd, synnwyr, a phob peth, fy moddion oll, a’u gwerth. O law fy Nuw y daw, mi wn, […]
Mawr ddyled arnom sydd i foli Iôr y nef, wrth weld o ddydd i ddydd mor dirion ydyw ef; ef yw ein Craig, ein tŵr a’n maeth; y flwyddyn hon ein cofio wnaeth. Ni all tafodau byw holl ddynol-ryw yn un fyth ddatgan gymaint yw ei gariad ef at ddyn; efe sy’n darpar, ar ei […]
Molwch ar yr utgorn a thympan a dawns, molwch ar y nabl ac ar delyn, molwch, molwch enw yr Iôr: molwch ar y symbal llafar, molwch ar y symbal llafar, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr, Haleliwia! molwch yr Iôr, pob perchen anadl, molwch yr Iôr. Haleliwia! molwch yr Iôr Haleliwia! […]