logo

Ein gwefannau eraill: ysgolsul.com beibl.net gair.cymru

gobaith.cymru

Iesu, nid oes terfyn arnat

Iesu, nid oes terfyn arnat, mae cyflawnder maith dy ras yn fwy helaeth, yn fwy dwfwn ganwaith nag yw ‘mhechod cas: fyth yn annwyl meibion dynion mwy a’th gâr. Mae angylion yn cael bywyd yn dy ddwyfol nefol hedd, ac yn sugno’u holl bleserau oddi wrth olwg ar dy wedd; byd o heddwch yw cael […]

  • Gwenda Jenkins,
  • March 5, 2015

Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon

Iesu, Iesu, ‘rwyt ti’n ddigon, ‘rwyt ti’n llawer mwy na’r byd; mwy trysorau sy’n dy enw na thrysorau’r India i gyd: oll yn gyfan ddaeth i’m meddiant gyda’m Duw. Y mae gwedd dy ŵyneb grasol yn rhagori llawer iawn ar bob peth a welodd llygad ar hyd ŵyneb daear lawn: Rhosyn Saron, ti yw tegwch […]


Iesu, difyrrwch f’enaid drud

Iesu, difyrrwch f’enaid drud yw edrych ar dy wedd, ac mae llythrennau d’enw pur yn fywyd ac yn hedd. A than dy adain dawel, bur yr wy’n dymuno byw heb ymbleseru fyth mewn dim ond cariad at fy Nuw. Melysach nag yw’r diliau mêl yw munud o’th fwynhau, ac nid oes gennyf bleser sydd, ond […]


Iesu, Iesu, sanctaidd wyt

Iesu, Iesu, Sanctaidd wyt, Fab Duw eneiniog, Iesu. Iesu, Iesu, Ti yw’n Harglwydd dyrchafedig, Iesu. Dy enw sydd fel y diliau mêl, Dy Ysbryd fel dŵr i’m henaid i; Dy Air sydd yn llusern glir i’m traed. Iesu, fe’th garaf, fe’th garaf. Jesus, Jesus, Holy and Anointed One, John Barnett,  Cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones © 1988 […]


Iesu, ‘r enw anrhydeddwn

Iesu, ’r enw anrhydeddwn, Iesu, ’r enw folwn ni. Mae’n enw sydd goruwch pob enw arall; Datgan nef a daear oll Fod Iesu’n wir Fab Duw. Fe addolwn ni a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo ynghyd. Fe addolwn ni, a’i ddyrchafu fry, Canwn foliant iddo drwy’r byd. Iesu, ’r enw a addolwn, Ynddo ymddiriedwn ni. […]


Iddo Ef

Iddo Ef sydd yn gallu gwneud llawer mwy na phopeth a ddeisyfwn neu ddychmygwn trwy ei nerth sydd ar waith, trwy ei nerth sydd ar waith ynom ni, ynom ni. Iddo Ef y bo’r gogoniant ynom ni ac yng Nghrist Iesu y Meistr o genhedlaeth i genhedlaeth, hyd byth a hyd byth, Amen, Amen. Nerthol […]

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Iesu, fy Ngwaredwr i

Iesu, fy Ngwaredwr i, Mae dy lygaid hardd fel fflamau tân. Iesu, rhof fy hun i ti; Fe’th ddilynaf di i bob man. ‘Does neb drwy’r oesoedd maith sy’n debyg i ti, Mae’r oesoedd a’r blynyddoedd yn dy law. Alffa ac Omega, do fe’m ceraist, Caf rannu tragwyddoldeb maith â thi. ‘Does dim hebot ti, […]


I’w liniau cwympodd Brenin nef

  • MLC_Admin,
  • January 1, 1970

Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml

Iesu, dy harddwch sy’n llenwi dy deml, Iesu, dy bersawr sy’n denu dy bobl. Ac wrth glosio atat ti ‘Rwy’n profi cyffro a heddwch gwir, Teimlo cariad a hedd O weled dy wedd, Meseia. A neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd bywiol; Rhoi fy hun yn llaw’r Achubwr dwyfol. Neidio wnaf i mewn i’r dyfroedd […]


Iesu, mor hawddgar wyt ti

Iesu, mor hawddgar wyt ti, Rwyt ti mor addfwyn, mor bur, mor gu. Ti yw haul ein cyfiawnder ni, lesu, mor hawddgar wyt ti. Haleliwia, lesu yw fy Mrenin cu, Haleliwia, lesu sydd bopeth i mi. Cytgan Haleliwia, lesu ddaeth o’r bedd yn fyw, Haleliwia, maddau ’mai, Ef sydd Dduw. Cytgan Haleliwia, addfwyn a thyner […]