I Galfaria trof fy ŵyneb, ar Galfaria gwyn fy myd: y mae gras ac anfarwoldeb yn diferu drosto i gyd; pen Calfaria, yno, f’enaid, gwna dy nyth. Yno clywaf gyda’r awel salmau’r nef yn dod i lawr ddysgwyd wrth afonydd Babel gynt yng ngwlad y cystudd mawr: pen Calfaria gydia’r ddaear wrth y nef. Dringo’r […]
Iesu, pwy all fod yn fwy na thi? Iesu, ti yw ‘ngobaith i, Iesu’ ti yw ‘mywyd i, Iesu, fy nghyflawnder i, Iesu, caraf di. Iesu, daethost gynt i’n daear ni, gwisgo cnawd a wnaethost ti, yn ddibechod rhodiaist ti er mwyn dod i’n hachub ni, Iesu, caraf di. Iesu, gwrando ar fy egwan gri, […]
Iesu dyrchafedig, Geidwad bendigedig, mawl a’th erys di; Arglwydd llawn tosturi, edrych at ein gweddi, Iesu, cymorth ni; trugarha, O Arglwydd da, rho faddeuant, rho dangnefedd, dwg ni i’th orfoledd. Ymaith, ffôl amheuon, heriaf bob treialon, Iesu yw fy rhan; canaf ymhob replica tywydd os caf wenau f’Arglwydd, gobaith f’enaid gwan; O fy Nuw, fy […]
Iesu, clywaf sŵn dy eiriau draw o fin y lli; cerddant ataf o’r pellterau, “Canlyn fi.” Uwch y dwndwr, mae acenion gwynfyd yn dy lef; llifa’u swyn i giliau’r galon, Fab y nef. Minnau iti, Aer y nefoedd, roddaf ddyddiau f’oes; rhodiaf, gyda saint yr oesoedd, ffordd y groes. Ar dy ôl y tyn myrddiynau […]
Iesu tirion, gwêl yn awr blentyn bach yn plygu i lawr: wrth fy ngwendid trugarha, paid â’m gwrthod, Iesu da. Carwn fod yn eiddot ti; Iesu grasol, derbyn fi; gad i blentyn bach gael lle, drwy dy ras, yn nheyrnas ne’. Carwn fod fel ti dy hun, meddu calon ar dy lun; addfwyn, tirion iawn […]
I’r Arglwydd cenwch lafar glod a gwnewch ufudd-dod llawen fryd; dowch o flaen Duw â pheraidd dôn, drigolion daear fawr i gyd. Gwybyddwch bawb mai’r Iôr sy Dduw a’n gwnaeth ni’n fyw fel hyn i fod, nid ni ein hun – ei bobl ŷm ni a defaid rhi’ ei borfa a’i nod. O ewch i’w […]
I Dad y trugareddau i gyd rhown foliant, holl drigolion byd; llu’r nef moliennwch, bawb ar gân, y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân. THOMAS KEN, 1637-1711 cyf. HOWEL HARRIS, 1714-73 (Caneuon Ffydd 15)
Iesu, Bugail mawr y defaid, noddfa’r praidd o oes i oes, cofia heddiw dy ddiadell, ffrwyth dy ing ar bren y groes; tro dy ŵyneb, edrych arnom yn yr awr sancteiddiol hon a thosturia wrth dy gennad sydd yn sefyll ger dy fron. Derbyn di ei ymgyflwyniad, gwrando’i addunedau dwys, cymorth ef wrth ymgysegru ar […]
Iesu ei hunan yw fy mywyd, Iesu’n marw ar y groes: y trysorau mwyaf feddaf yw ei chwerw angau loes; gwacter annherfynol ydyw meddu daear, da na dyn; colled ennill popeth arall oni enillir di dy hun. Dyma ddyfnder o drysorau, dyma ryw anfeidrol rodd, dyma wrthrych ges o’r diwedd ag sy’n hollol wrth fy […]
Iesu, ti yw ffynnon bywyd, bywyd dedwydd i barhau; pob rhyw gysur is y nefoedd ynot ti dy hun y mae: ni all croes na gwae na chystudd wneuthur niwed iddynt hwy gafodd nerth i wneud eu noddfa yn dy ddwyfol, farwol glwy’. Dring, fy enaid, i’th orffwysfa uwch y gwynt tymhestlog, oer, maes o […]