I’n Duw, rhoddwn ddiolch glân, I’n Duw, canwn newydd gân I’n Duw, am iddo roddi lesu Grist, Ei Fab. (Ailadrodd) “Yn awr”, medd y gwan “yr wyf yn gryf,” Medd y tlawd, “Cyfoethog wyf, Oherwydd beth a wnaeth fy Nuw drosof fi.” (Ailadrodd) (Tro olaf) Fy Nuw. Henry Smith, Give Thanks, cyfieithiad awdurdodedig: Arfon Jones […]
I ti dymunwn fyw, O Iesu da, ar lwybrau esmwyth oes, dan heulwen ha’: neu os daw’r niwl i guddio’r wybren las na ad i’m hofnau atal gwaith dy ras. Yn fwy bob dydd i ti dymunwn fyw gan wneud dy waith yn well, gwaith engyl yw; a gad i mi, wrth ddringo’u hysgol hwy, […]
I dawel lwybrau gweddi, O Arglwydd, arwain fi, rhag imi gael nhwyllo gan ddim daearol fri: mae munud yn dy gwmni yn newid gwerth y byd yn agos iawn i’th feddwl O cadw fi o hyd. Pan weli fy amynedd, O Arglwydd, yn byrhau; pan weli fod fy mhryder dros ddynion yn lleihau; rhag im, […]
I’th Eglwys, Arglwydd, rho fwynhau y tywalltiadau nefol, a grasol wyrthiau’r Ysbryd Glân yn creu yr anian dduwiol. Nid dawn na dysg ond dwyfol nerth wna brydferth waith ar ddynion; y galon newydd, eiddot ti ei rhoddi, Ysbryd tirion. Ti elli bob rhyw ddrwg ddileu a’n creu i gyd o’r newydd; yn helaeth rho yn […]
I orwedd mewn preseb rhoed Crëwr y byd, nid oedd ar ei gyfer na gwely na chrud; y sêr oedd yn syllu ar dlws faban Mair yn cysgu yn dawel ar wely o wair. A’r gwartheg yn brefu, y baban ddeffroes, nid ofnodd, cans gwyddai na phrofai un loes. ‘Rwyf, Iesu, ‘n dy garu, O […]
Iesu fy mrenin! Ti yw’r Emaniwel! Frenin nef, Arglwydd glân, Seren y wawr. Ac i dragwyddoldeb mwy canaf dy foliant, A theyrnasu wnawn i dragwyddoldeb mwy. Dave Moody (All hail King Jesus!) cyf. Arfon Jones ©Tempo Music Publications/Word Music (UK) 1981 Gwein.gan Copycare (Grym Mawl 1:3)
Iesu tirion, edrych arnaf mewn iselder, poen a chur, dyro im dy ddwyfol Ysbryd a’i ddiddanwch sanctaidd, pur; pan wyt ti yn rhoi dy ŵyneb y mae llewyrch yn dy wedd sy’n gwasgaru pob amheuaeth ac yn trechu ofnau’r bedd. Edrych arnaf mewn tosturi pan fo cysur byd yn ffoi; yng nghyfyngder profedigaeth atat ti […]
Iôr y nef, ymwêl â’r ddaear, edrych ar y maes, y byd: byd a greaist, gofiaist, geraist, brynaist yn yr aberth drud; anfon, Arglwydd, weithwyr i’r cynhaeaf mawr. Ti, a roddodd air y deyrnas, gair y bywyd, gair dy ras, rho dy fendith ar yr heuwr, llwydda law dy waelaf was: arddel, Arglwydd, weithwyr y […]
Iesu roes addewid hyfryd cyn ei fynd i ben ei daith yr anfonai ef ei Ysbryd i roi bywyd yn ei waith; dawn yr Ysbryd, digon i’r disgyblion fu. Cofiodd Iesu ei addewid; O cyflawned hi yn awr, fel y gwnaeth ar ddydd y Sulgwyn pan achubwyd tyrfa fawr; enw Iesu gaiff yr holl ogoniant […]
Iesu Grist o’r nef a ddaeth, Haleliwia! I Galfaria fryn yr aeth, Haleliwia! Marw wnaeth dros euog fyd, Haleliwia! Rhodder iddo’r clod i gyd, Haleliwia! Rhoddodd Iawn ar bren y groes, Haleliwia! I’n rhyddhau o feiau’n hoes, Haleliwia! Llawen floeddied nef a llawr, Haleliwia! Teilwng wyt, O Geidwad mawr, Haleliwia! Yn lle’r groes, cadd orsedd […]