PENNILL 1: Yn y twyllwch heb oleuni A heb obaith oeddem ni Nes y rhedaist ti o’r nefoedd  thrugaredd yn dy wedd (Cyf)lawni’r gyfraith a’r proffwydi At yr wyryf daeth y Gair Dod o orsedd y gogoniant Lawr i grud oedd yn y llwch CYTGAN: Clod i’r Tad a chlod i’r Mab Clod i’r […]
Os oes syched arnaf fi Mentra ato Ef; Ni chei orffwys heb ei ras, Mentra ato Ef; Os wyf wan Mae Iesu’n dweud: Mentra ato Ef; Neb ond Ef fydd imi’n nerth: Mentra ato Ef; Cytgan Canys da yw ‘Nghrist a ffyddlon, Ddydd a nos fe’m ceidw’n fyw. Y mae croeso’m mreichiau Iesu: Cryf, caredig […]
I Dduw y dechreuadau rhown fawl am ddalen lân, am hyder yn y galon ac ar y wefus, gân: awn rhagom i’r anwybod a’n pwys ar ddwyfol fraich; rho nerth am flwyddyn arall i bobun ddwyn ei faich. Ar sail ein doe a’n hechdoe y codwn deml ffydd, yn nosau ein gorffennol ni fethodd toriad […]
Iesu, Ti’n disgleirio yn d’ogoniant, breichiau led y pen agored; Ti yw Brenin daear gyfan ac yn Arglwydd ar fy nghalon. Golau sydd yn tywallt allan, pelydr yn cludo’r cyfan Popeth y mae arnaf angen ddaw i’m meddiant o dy galon Di. Tyrd lawr i deyrnasu ar y ddaear – defnyddia ein doniau ni, Mae […]
’Dwi wedi bod yn dilyn Y byd a’i addewidion, Ond dim ond ti sydd yn bodloni Y gwagle yn fy nghalon. ’Dwi’n dal ymlaen i ymladd, i geisio cael f’ewyllys i. Ond dim ond pan ‘dwi’n rhoi fy mywyd Y byddaf fi’n ei ffeindio hi. Deled dy deyrnas, Gwneler dy ewyllys. Cytgan ’Dwi’n ildio f’oll […]
Iesu, gwyddost fy nghystuddiau, ‘R wyt yn rhifo pob yr un; Pob rhyw wradwydd, pob rhyw groesau, Dioddefaist hwynt dy Hun; Dal fi i fyny Man bo ‘meichiau’n fwyaf trwm. Er dy fod Di heddiw’n eistedd Yn ngogoniant nef y nef, Mewn goleuni cyn ddisgleiried Na ellir nesu ato ef, ‘R wyt yn edrych Ar […]
I ti, O Dad addfwynaf, fy ngweddi a gyflwynaf yn awr ar derfyn dydd: O derbyn di fy nghalon, mewn hawddfyd a threialon yn gysgod bythol imi bydd. Pob gras tydi a feddi i wrando ar fy ngweddi, clyw nawr fy llef, O Dad; na chofia fy ffaeleddau, a maddau fy nghamweddau, dy fendith, Arglwydd, […]
I blith y ddau neu dri yr awron tyred di, ein gwendid gwêl, rho inni sêl, O Dad, ymwêl â ni: cryfha ein ffydd yn ôl y dydd, Breswylydd mawr y berth, ein llef erglyw, O Iôr, ein llyw, yr esgyrn gwyw gwna eto’n fyw, O Dduw, bydd inni’n nerth. Ein cri, ein Tad, a’n […]
Diolch am yr Ysgol Sul Iesu’r athro clyw ein diolch Am bob gwers a gawsom ni Yn ein helpu ni i ddysgu Mor arbennig ydwyt ti. Yn yr Ysgol Sul y clywsom Am dy air, dy ddysg a’th ddawn, A bod modd i ninnau ddathlu Bod yn rhan o’th deulu llawn. Helpa ni i weld […]
Ioan 10 Iesu ti yw drws pob gobaith, Ti yw’r ffordd ymlaen at Dduw, Drwy dy ddilyn, gwyddom ninnau Er ein beiau, y cawn fyw. Fel y bu i’r defaid ddilyn Ôl dy droed, dros lwybrau maith, Credwn mai diogel fyddwn Er peryglon mwya’n taith. Ti yw bugail mawr y defaid, Sydd o hyd yn […]