Gwna fi fel pren planedig, O fy Nuw, yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw, yn gwreiddio ar led, a’i ddail heb wywo mwy, yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy’. Gad imi fyw, ynghanol pob rhyw bla, dan gysgod clyd adenydd Iesu da; a’m tegwch gwir fel olewydden wiw o blaniad teg daionus Ysbryd Duw. […]
Gyda’r saint anturiais nesu dan fy maich at allor Duw: bwrdd i borthi’r tlawd, newynog, bwrdd i nerthu’r egwan yw; cefais yno megis gyffwrdd, corff drylliedig Iesu glân, yn y fan fe doddai ‘nghalon fel y cwyr o flaen y tân. O fy Iesu bendigedig, golwg iawn ar waed dy groes sydd yn toddi’r mawr […]
Gogoniant fo i’r Arglwydd a ddug ein beiau i gyd i’w hoelio ar Galfaria i farw yno ‘nghyd; cyfiawnder yw ei enw, trugaredd yw ei lef, a garodd ei elynion yn fwy na gwychder nef. Mae’n diffodd fflamau gofid, mae’n difa brath pob clwy’; fe roes y cyfan unwaith a’i fawredd eto’n fwy dihangodd o […]
Gad in fod yn olau clir i’r cenhedloedd, yn olau clir i holl bobloedd daear lawr nes y gwelo’r byd ogoniant d’enw mawr, O llewyrcha drwom ni. Gad in ddod â gobaith d’Air i’r cenhedloedd, y Gair sy’n fywyd i bobloedd daear lawr, nes y gwypo’r byd fod achubiaeth ynot ti, Gair maddeuant, drwom ni. […]
Gogoniant tragwyddol i’th enw, fy Nuw, mae’r byd yn dy gysgod yn bod ac yn byw; ni flinaist fynd heibio i feiau di-ri’ i gofio pechadur na chofia dydi. Tydi sydd yn deilwng o’r bri a’r mawrhad, tydi roddodd fywyd a chynnydd i’r had; tydi yn dy nefoedd aeddfedodd y grawn, tydi roddodd ddyddiau’r cynhaeaf […]
Gofala Duw a Thad pob dawn yn dyner iawn amdanom: mae’n tai yn llawn o’i roddion rhad, O boed ei gariad ynom. Y cynnar law a’r tyner wlith, diferant fendith unwedd; y ddaear, rhydd ei ffrwythau da, a’r haul, cyfranna’i rinwedd. Am ffrwythau hael y flwyddyn hon a’i mawrion drugareddau moliannwn enw Duw bob dydd […]
Glân gerwbiaid a seraffiaid fyrdd o gylch yr orsedd fry mewn olynol seiniau dibaid canant fawl eu Harglwydd cu: “Llawn yw’r nefoedd o’th ogoniant, llawn yw’r ddaear, dir a môr; rhodder iti fythol foliant, sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd Iôr.” Fyth y nef a chwydda’r moliant, uwch yr etyb daear fyth: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd,” meddant, “Dduw y […]
Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw; sôn am dy gariad fore glas, a’r nos am wirioneddau gras. Melys yw dydd y Saboth llon, na flined gofal byd fy mron, ond boed fy nghalon i mewn hwyl fel telyn Dafydd ar yr ŵyl. Yn Nuw fy nghalon lawenha, bendithio’i waith a’i […]
Gyda thoriad gwawr y bore, O mor felys yw codi’n llef a llafar ganu, canu mawl i Dduw. Seinia adar mân y coedydd glod i’th enw mawr; una’r gwynt a’r môr i’th foli, Arglwydd nef a llawr. Dan dy adain dawel, esmwyth cawsom felys hun; yn ddianaf drwy yr hirnos cedwaist ni bob un. Ar […]
Gorchudd ar dy bethau mawrion yw teganau gwag y byd; cadarn fur rhyngof a’th Ysbryd yw ‘mhleserau oll i gyd: gad im gloddio, drwy’r parwydydd tewion, drwodd at fy Nuw i gael gweld trysorau gwerthfawr na fedd daear ddim o’u rhyw. N’ad im daflu golwg cariad ar un gwrthrych is y rhod, na gwneud gwrthrych […]