Diolch am fyd natur (Tôn: Plwyf Llangeler) Gorfoledd i’n calon wrth fynd ar ein taith, yw’r sicrwydd, Dad nefol, dy fod wrth dy waith; tydi’n dy ddoethineb sy’n llunio a gwau patrymau byd natur, a Thi sy’n bywhau; O Roddwr pob harddwch, diolchwn o hyd am feddwl amdanom wrth lunio dy fyd. Hyfrydwch i’n llygaid […]
Tôn: Tŵr Gwyn (622 Caneuon Ffydd) Caed cyfoeth gras y nefoedd yn y crud, a chariad Tad drwy’r oesoedd yn y crud; caed Duw’n ei holl ogoniant, o fore dydd y trefniant yn Eden gyda’i ramant yn y crud; caed cysgod croes ein pryniant yn y crud. Cyn dyfod dydd dy eni Iesu da, fe’th […]
Ganol gaeaf noethlwm cwynai’r rhewynt oer, ffridd a ffrwd mewn cloeon llonydd dan y lloer: eira’n drwm o fryn i dref, eira ar dwyn a dôl, ganol gaeaf noethlwm oes bell yn ôl. Metha nef a daear gynnwys ein Duw; ciliant hwy a darfod pan fydd ef yn llyw: ganol gaeaf noethlwm digon beudy trist […]
Gwn pa le mae’r cyfoeth gorau, gwn pa le mae’r trysor mawr; profais flas y bywyd newydd, O fendigaid, fwynaf awr: grym y cariad a’m henillodd innau’n llwyr. Gwn pwy yw yr hwn a’m carodd, gwn pwy yw y rhoddwr rhad, gwynfydedig Fab y nefoedd ar wael lwch yn rhoi mawrhad; O ryfeddod: nerth ein […]
Golau haul, a sêr a lleuad, popeth da a hardd ei lun, rhyfeddodau mawr y cread, dyna roddion Duw ei hun. Clod i’r Arglwydd, clod i’r Arglwydd, am bob rhodd i’n cadw’n fyw, O moliannwn a chydganwn am mai cariad ydyw Duw. Ffurf a lliw y coed a’r blodau, ffrwythau’r ddaear i bob un, holl […]
Glynwn gyda’r Iesu, Cyfaill dynol-ryw; Unwn oll i’w garu, Gan mor annwyl yw; Ffyddlon yw i’n cofio Â’i ddaioni drud: Glynwn ninnau wrtho, Cyfaill gorau’r byd. Glynwn gyda’r Iesu, Mae i ni yn frawd; Daeth yn un o’n teulu, Bu fel ni yn dlawd; Atom i’n cysuro Daeth i lawr o’r nef; Mae’n ein cofio […]
Gras tu hwnt i’m deall i, Yn rhad a helaeth er fy mai Alwodd fi ers cyn i’m fod I roi i Ti y mawl a’r clod. Gras rhyfeddol, dwfn a glân Welodd ddyfnder f’angen i, Yn derbyn baich fy mhechod i A’m gwisgo â’th gyfiawnder di. Gras, A dalodd y pris i’m dwyn i […]
Gwêl ni’r awron yn ymadael, Bydd wrth raid Inni’n blaid, Arglwydd, paid â’n gadael. N’ad in nabod dim, na’i garu, Tra fôm byw, Ond y gwiw Groeshoeliedig Iesu. Os gelynion ddaw i’n denu, Yna’n ddwys Bwrw’n pwys Wnelom ar yr Iesu. Hyfryd fore heb gaethiwed Wawria draw, Maes o law Iesu ddaw i’n gwared. Gwyn […]
Golau a nerthol yw ei eiriau, Melys fel y diliau mêl, Cadarn fel y bryniau pwysig; Angau Iesu yw eu sêl; Y rhain a nertha ‘nhraed i gerdded Dyrys anial ffordd ymlaen; Y rhain a gynnal f’enaid egwan, Yn y dŵr ac yn y tân. Gwedd dy wyneb sy’n rhagori Ar drysorau’r India draw; Mae […]
Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi, Gwnes di arllwys dy gariad ynof fi, Trwyddot ti cefais ffordd trwy ffydd I ddod i’r gras dwi’n sefyll ynddo, Do, cefais ffordd trwy ffydd i ddod I’r gras dwi’n sefyll ynddo. Cytgan: Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law. Iesu, Iesu, cwbwl ydyw gwaith dy law. Pen […]